Cardiff and South East Wales
Caerdydd a De-Ddwyrain Cymru

News
Newyddion

Join
Ymunwch

The Branch
Y Gangen

Contact
Cysylltu

Events
Digwyddiadau

Links
Linciau

Email List
Rhestr Ebost

Am y Gangen

Efallai taw dyma'r tro cyntaf erioed i ymdrech gael ei gwneud i gofnodi amcanion y gangen hon mewn ysgrifen. A ninnau yn oes y dechnoleg newydd, tra phriodol ydyw bod yr amcanion hyn yn cael eu hybu ar ein gwefan newydd. Gobeithio y bydd yr aelodau sy'n darllen hyn o lith yn anfon atborth atom i sicrhau gyda thraul amser y bydd yn gwir adlewyrchu'r hyn ddylai ein hamcanion fod.

Digon am y tro yw inni ddatgan mai amcanion pennaf y gangen yw darparu cefnogaeth a llais ar lefel leol i'n haelodau, yn ychwanegol i'r hyn a ddarperir ar eu cyfer gan y brif swyddfa ar lefel y wladwriaeth Brydeinig. Dylai'r gangen weithredu fel canolbwynt yn Ne Ddwyrain Cymru i'r materion a'r problemau hynny sy'n effeithio ar newyddiadurwyr yn eu gwaith o ddydd i ddydd, megis cyflogau, amodau gwaith, diogelwch a diogeledd, a'u hawl i dderbyn cydnabyddiaeth a gwobr briodol am eu hymdrechion.

Fe ddylai helpu i gadarnhau seiliau'r cynnydd a wnaed yn barod yn y dasg o greu fforwm ar gyfer newyddiadurwyr sy'n gweithio yn ac o Gymru, a helpu hefyd i ddiogelu a hybu'r cyfryngau lle y maent yn gweithio ger bron y rhai sy'n dal grym yn genedlaethol yn ogystal ac ar lefel y wladwriaeth Brydeinig.

Brian Morgan
Is-Gadeirydd